Hepgor gwe-lywio

Cynadleddau, seminarau a chyfarfodydd

Byddwch yn sicr o gael croeso cynnes a chyfeillgar gan ein tîm profiadol...

Mae Theatr y Dywysoges Frenhinol ar gael i'w llogi. Gellir ei defnyddio ar gyfer digwyddiadau amrywiol a’i haddasu i ddiwallu'ch gofynion personol. Byddwch yn sicr o gael croeso cynnes a chyfeillgar gan ein tîm profiadol.

Mae’r theatr ym Mhort Talbot ac mae'n hawdd ei chyrraedd o'r M4 gerllaw a dim ond 5 munud ar gerdded ydyw o orsaf drenau Port Talbot Parkway.

Mae gan y theatr WiFi, gwasanaeth llungopïo, cyfleusterau ffacs, taflunydd LCD, sgrîn daflunio flaen a chefn 6tr. - 8tr, uwchdaflunydd a sgrîn, darllenfa, taflunydd sleidiau 35mm, cyfarpar sain a goleuadau, bordydd petryal 6tr. x  3tr, bordydd crwn â 10 sedd a byrddau arddangos ac mae'r cyfan ar gael ar y safle. Mae cefnogaeth dechnegol lawn ar gael i roi sain a golwg broffesiynol i'ch digwyddiad. Gellir darparu bwffe a lluniaeth hefyd.

Os hoffech gael sgwrs am gynnal digwyddiad yma, anfonwch ymholiad atom drwy glicio ar y botwm isod.

© Cyngor Castell-nedd Port Talbot